treftadaeth '09
cyrraedd yma
Ffeindio'ch ffordd i ddigwyddiad Treftadaeth eleni yn Abertawe
Cynhaliwyd y digwyddiadau Treftadaeth cyntaf erioed yn 2008. Trefnwyd y digwyddiadau gan Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru, Sefydliad Cadwraeth Hanesyddol Cymru mewn partneriaeth â Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau Treftadaeth 2008, cliciwch yma: http://www.civictrustwales.org/treftadaeth/index.html
Cynhaliwyd y gynhadledd gyntaf yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar 30ain o Ebrill 2008. Cafwyd dros 130 o bobl yn mynychu y digwyddiad arbennig hwn ar gyfer y sector amgylchedd hanesyddol. Daeth aelodau o sefydliadau gwirfoddol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r drydedd sector ynghyd i drafod blaenoriaethau o fewn polisi a strategaeth yr amgylchedd hanesyddol. Yn y sesiynau gweithdai cynhyrchwyd cynnigion ar gyfer partneriaethau mwy effeithiol ac awgrymiadau am y blaenoriaethau i weithredu.
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad yng Nghaerdydd, trefnwyd cynhadledd undydd gyda gweithdai yn Venue Cymru yn Llandudno ar 23ain o Hydref 2008. Roedd y digwyddiad yr un mor boblogaidd a'r cyntaf ac roedd hwn yn gyfle i lawer a fethodd y digwyddiad yng Nghaerdydd - neu oedd wedi methu cofrestru i'r ddigwyddiad orlawn- ymuno yn y drafodaeth. Edrychodd y gynhadledd ar welliant gyda Datganiad Strategol Amgylchedd Hanesyddol a diwygiad y ddeddfwriaeth diogelu treftadaeth.
Yn y gweithdai cafwyd cyfle i drafod cyfathrebu, partneriaethau a sialensau. Roedd allbwn y gweithdai yn datblygu'r syniadau ddaeth i'r golwg yn y gynhadledd cyntaf ym mis Ebrill, gyda chyfle i gynnig pwyntiau gweithredu i'r llywodraeth a'r sector wirfoddol.
Bu'r Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones, AC yyn bresennol yn y ddau ddigwyddiad a bu'n siarad am ei flaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a thrafod y materion gyda chyfranogwyr.
Fe ddaeth Treftadaeth 09 i Aberystwyth ac fe fydd yn ymweld ag Abertawe nesaf am Treftadaeth 2010 ar y 1af o Orffennaf 2010. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ar gyfer digwyddiad pwysig arall yn nyddiadur amgylchedd hanesyddol Cymru.
Ffeindio'ch ffordd i ddigwyddiad Treftadaeth eleni yn Abertawe