newyddion diweddaraf

Treftadaeth Cymru mewn ffocws yn 2010

Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi cyhoeddi lleoliad a dyddiad cynhadledd Treftadaeth 2010, sy'n cael ei gynnal yn Stadiwm Liberty, Abertawe o 9-5pm ar ddydd Iau, 1af o Orffennaf 2010.

Dywedodd Marilyn Lewis, Cyfarwyddwr Cadw, "Mae Treftadaeth 2010 yn dilyn cynadledd y llynedd yn Aberystwyth a dderbyniodd groeso da gan gynrychiolwyr y sector amgylchedd hanesyddol yng Nghymru."

Ychwanegodd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, "Rwy'n credu y bydd Treftadaeth 2010 yn profi i fod yn ddigwyddiad gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb yn nhreftadaeth hynod Cymru ac yn gyfle da i ofyn cwestiynau i'r arbenigwyr am unrhyw faterion yn ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru."

Am wybodaeth bellach ac i archebu lle ewch i www.treftadaeth.co.uk.

DIWEDD

treftadaeth '10

treftadaeth '08

treftadaeth '09

cyrraedd yma

Ffeindio'ch ffordd i ddigwyddiad Treftadaeth eleni yn Abertawe

design and developed by writemedia & mediadesign
Images © Crown copyright (2010) Visit Wales